Rhifau Rhagorol Ar-lein
Eisioes, mae aelodau o ddosbarthiadau Blwyddyn 1 i 6 wedi arfer gwneud profion Rhifau Rhagorol bob dydd Gwener. Tri prawf gwahahnol sydd: CLIC (sgiliau rhifedd pur), SAFE (Shape, Amounts, Fractions and Explaining) a Beat That (mathemateg pen).
Unwaith bob wythnos, bydd gofyn i bob disgybl gwneud eu profion ar lein.
Cam 1
Google - Big Maths online
Cam 2
Pin Ysgol: 1279
Cam 3
Enw defnyddiwr: ebost HWB (heb yr @hwbcymru.net)
Cam 4
Cyfrinair: yr un peth a'u cyfrinair HWB
Cam 5
Dewis y prawf yr hoffech wneud 1af a ffwrdd a chi. (Mae'r profion SAFE a CLIC Cymraeg ar gael ar waelod y dudalen os ydych plentyn yn teimlo’n hyderus i wneud trwy’r Gymraeg.)
Cam 6 PWYSIG! Bydd angen papur a phensil ar eich plentyn er mwyn iddynt allu cyfrifo a gwirio cyn rhoi'r atebion yn y blychau.
Profion CLIC a SAFE (1-5)
Os welwch chi’r negeseuon yma ar y sgrin “Your teacher will help you with this challenge”, mae’n golygu bod eich plentyn yn gweithio ar bofion 1 i 5.
CLIC
MAE'R PROFION YMA YN CAEL EU GWEITHREDU GYDAG OEDOLYN GAN DDEFNYDDIO'R PRAWF A'R SGRIPT - NID YW PROFION 1-5 YN CAEL EU GWNEUD AR WEFAN BIG MATHS ONLINE.
SAFE
DOES DIM TAFLEN CWESTIYNAU/ATEBION AR GYFER Y CAM YMA. YN LLE, GOFYNNWCH Y CWESTIYNAU SYDD YN Y SGRIPT YN YSTOD GWEITHGAREDDAU YMARFEROL.
Ar wefan yr ysgol, mae yna gopiau o brofion 1-5, CLIC a SAFE, ynghyd â sgript y gallwch ddefnyddio er mwyn gweithredu’r prawf gyda eich plentyn. Yn yr un ffordd a phrofion 6+, gallwch ddarllen y sgript, ond ceisiwch peidio helpu gyda’r fathemateg yn ystod y prawf.
Cofiwch annog eich plentyn i drio eu gorau glas. Hoffwn yn fawr i chi fel rhieni i beidio helpu, ar whahan i ddarllen y cwestiynau. Wrth i’ch plentyn gwneud y profion, gallwch eistedd gyda nhw a gwneud nodiadau o’r hyn sydd yn anodd iddynt ac ymarfer y sgiliau yma ymhellach.
Ebost Wythnosol
Ar ôl y Prawf
Erbyn prynhawn dydd Llun, fe fydd eich plentyn wedi derbyn ebost fydd yn cynnwys canlyniadau’r prawf CLIC. Fe fydd e’n edrych fel hyn:
Pecyn Cefnogi Rhieni
Yn yr e-bost fe welwch lefel CLIC eich plentyn (o 1 i 20) . Yn yr enghraifft yma, mae'r plentyn ar CLIC 11 felly dyma’r Pecyn Cefnogi y mae angen i chi ei ddefnyddio. Mae’r rhifau yn yr ebost yn cyd fynd â’r cwestiynau CLIC. Felly, os mae 4 yn goch, cerwch ati i ymarfer cwestiwn 4 o’r pecyn ymarfer.
Os maen nhw i gyd yn wyrdd, mae eich plentyn yn barod i ddechrau ymarfel y lefel nesaf.